N

Rheolwr Prosiect / Project Manager

National Trust for Places of Historic Interest or Natural Beauty

bethesda, wales, United-Kingdom Full-time June 11, 2026
Apply Now

Opportunity Description

Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect profiadol i ymuno â’n tîm yn y Carneddau. Byddwch yn arwain ar ddarparu prosiect newydd ar gyfer adfer natur a chysylltu cymunedau yn ardal Nant Ffrancon, Bethesda, Gwynedd.

Contract cyfnod penodol yw hwn, hyd at ddiwedd Ionawr 2029.

Yn atebol i’r Rheolwr Cyffredinol, byddwch yn arwain tîm bach, gan gynnwys Swyddog Prosiect a Chydlynydd Prosiect. Byddwch hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Ceidwaid sy’n gofalu am Ystâd y Carneddau a’r Glyderau, yn ogystal â staff mewnol ac allanol eraill.

Byddwch yn darparu’r cyfeiriad a’r ysgogiad i weithredu’r cynllun prosiect ar gyfer Nant Ffrancon. Bydd hyn yn cynnwys gwneud penderfyniadau pendant ar waith strwythurol, adfer cynefinoedd, bod yn bartner cydweithredol gwych, a sicrhau bod y cyfan yn digwydd o fewn yr amser a’r gyllideb. Mae’r prosiect yn drawsnewidiad – a byddwch ar y rheng flaen.

Mae’n gyfnod cyffrous, a bydd llawer yn digwydd yn yr ardal, gyda newid amlwg...

Full-time Management & Operations

Ready to Apply?

Submit your application for Rheolwr Prosiect / Project Manager at National Trust for Places of Historic Interest or Natural Beauty

Apply for this Position